Stori Beth Hughes
A gefaist ti dy eni’n fyddar?
Do. Roedd fy nhad yn gwybod bod rhywbeth o’i le ac roedd fy mam yn mynd â mi at y doctor ond fe ddywedon nhw fy mod i’n “araf” a’i bod hi’n “gwneud ffwdan”. Roeddwn i oddeutu 3 neu 4 oed, ac rwy’n cofio mynd at y doctor a sylweddoli bod rhywbeth o’i le. Roeddwn i oddeutu 5 oed pan gefais fy nghymorth clyw cyntaf, a dyna pryd y sylweddolais fy mod i’n fyddar.
Beth oeddet ti’n ei feddwl o’r cymorth clyw?
Roeddwn i’n meddwl ei fod yn wych ar y pryd gan fy mod i’n gallu clywed rhai pethau penodol, fel y gwynt. Ar ôl cael y cymorth clyw, roedd fy llafaredd yn llawer gwell.
Beth wyt ti’n ei feddwl ohono nawr wrth edrych yn ôl?
Roedd o’n erchyll; caled, plastig, mawr ac ar ddiwrnod poeth, roedd fy nghlust yn boeth ac yn anghyfforddus.
Sut brofiad oedd cael dy fagu fel person byddar?
Wnes i erioed feddwl amdanaf fy hun fel person byddar. Roeddwn i’n cael fy nhrin fel pawb arall. Wnes i erioed dderbyn hyfforddiant iaith arwyddion nag unrhyw beth felly, heblaw am gylchgrawn Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar. Weithiau (unwaith y mis), byddai athro arbennig yn dod i’m gweld. Chefais i erioed unrhyw gymorth na chefnogaeth go iawn yn yr ysgol.
Sut oeddet ti’n teimlo am yr ysgol?
Roedd o’n iawn, ond yn anodd. Cefais fy mwlio, ac roeddwn i’n ei dderbyn ac yn chwerthin amdano. Roedd yr athrawon yn fwy llym ac roedd dau yn gas tuag ata i yn yr ysgol uwchradd. Gan fy mod i’n wahanol, roedden nhw eisiau i mi eistedd yng nghefn y dosbarth, ond roeddwn i’n gwrthod symud.
Pam wnes di ddewis y Cymorth Clyw Drwy Asgwrn (BAHA)?
Roeddwn i’n gwybod pa mor dda yr oedd wedi gweithio ar gyfer fy mab, David, Edrychais ar y we a chefais wybod mwy amdano. Pan anwyd David, roedd yn rhaid i mi dderbyn fy mod yn fyddair gan iddo dderbyn diagnosis o gyflwr diffyg 18q, sy’n rhedeg yn y teulu.
Beth yw BAHA?
Mae sgriw titaniwm yn cael ei osod yn yr asgwrn dan anaesthetig cyffredinol. Mae’r llawdriniaeth yn cymryd tua dwy awr. Mae’n llai ymwthiol na mewnblaniad yn y cochlea gan nad yw’n mynd i’r ymennydd, ond yn hytrach, i’r asgwrn o amgylch y glust (y tu ôl i’r glust neu uwchben y glust).
4-6 wythnos yn ddiweddarach, maen nhw’n gosod y cymorth clyw gyda rhywbeth sy’n debyg iawn i fotwm gwasgu. Mae’n rhaid ei lanhau bob dydd er mwyn sicrhau nad yw’r croen yn tyfu dros y sgriw.
Beth wyt ti’n ei glywed nawr nad oeddet ti’n ei glywed o’r blaen?
Pobl yn siarad y tu ôl i mi, fy nghamau fy hun, symudiad fy ngwallt neu ddillad. Rydw i’n gallu clywed fy mab yn llawer cliriach pan mae’n siarad gyda mi. Rydw i’n gallu clywed yn well mewn amgylcheddau swnllyd.
Pam wyt ti’n dysgu iaith arwyddion?
Gan fy mod i bob amser wedi bod eisiau dysgu. Roedd yn garreg gamu i’r gymuned fyddar. Chefais i erioed y cyfle o’r blaen ac mae’n wych. Rydw i wrth fy modd!